Lleoliad: Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 9 Tachwedd 2022
Amser:
09.30 -
12.12
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13130
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd James Owen, Llywodraeth Cymru Simon Bilsborough, Llywodraeth Cymru Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Archwilio Cymru Lindsay Foyster, Archwilio Cymru Kevin Thomas, Archwilio Cymru Ann-Marie Harkin, Archwilio Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Christian Tipples (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
Rhag-gyfarfod Preifat - Anffurfiol (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd Peter Fox AS fuddiant o dan eitem 3, sef ei fod yn ffermwr ac yn ffermwr tenant.
2 Papur(au) i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog ynghylch goblygiadau ariannol Biliau.
2.1 PTN 1 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol (F:ISC) - 19 Hydref 2022
2.2 PTN 2 - Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 12 Hydref 2022 - 21 Hydref 2022.
2.3 PTN 3 - Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru): Ymateb Llywodraeth Cymru - 25 Hydref 2022.
2.4 PTN 4 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Amserlen Cyllideb Ddrafft 2023-24 Llywodraeth Cymru - 24 Hydref 2022
2.5 PTN 5 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Amserlen ar gyfer Ail Gyllideb Atodol 2022-23 - 3 Tachwedd 2022
3 Goblygiadau ariannol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd; a swyddogion Llywodraeth Cymru ar oblygiadau ariannol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru).
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:
· Nodyn ar y modelu ariannol yn ymwneud â chostau anhysbys neu anfesuradwy’r Bil, yn seiliedig ar brofiadau'r gorffennol.
· Nodyn ar y gofynion adrodd ariannol ar gyfer asesu'r effaith economaidd ar y sector amaethyddol mewn perthynas â chynlluniau cymorth yn y dyfodol.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5 a 7 a’r cyfarfodydd ar 16 Tachwedd 2022 a 1 Rhagfyr 2022.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Goblygiadau ariannol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
Cyhoeddus
6 Archwilio Cymru - Craffu ar Amcangyfrif 2023-24 a'r Adroddiad Interim: Sesiwn dystiolaeth
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, a swyddogion Archwilio Cymru.
Preifat
7 Archwilio Cymru - Craffu ar Amcangyfrif 2023-24 a'r Adroddiad Interim: Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.